logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pam y caiff bwystfilod rheibus

Pam y caiff bwystfilod rheibus
dorri’r egin mân i lawr?
Pam caiff blodau peraidd,
ieuainc fethu gan y sychder mawr?
Tyred â’r cawodydd hyfryd
sy’n cynyddu’r egin grawn,
cawod hyfryd yn y bore
ac un arall y prynhawn.

Gosod babell yng ngwlad Gosen,
tyred, Arglwydd, yno d’hun,
gostwng o’r uchelder golau,
gwna dy drigfan gyda dyn;
trig yn Seion, aros yno
lle mae’r llwythau’n dod ynghyd,
byth na ‘mad oddi wrth dy bobol
nes yn ulw’r elo’r byd.

WILLIAM WILLIAMS 1717-91

(Caneuon Ffydd 728)

PowerPoint