logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pa le mae dy hen drugareddau

Pa le mae dy hen drugareddau,
hyfrydwch dy gariad erioed?
Pa le mae yr hen ymweliadau
fu’n tynnu y byd at dy droed?
Na thro dy gynteddau’n waradwydd,
ond maddau galedwch mor fawr;
o breswyl dy ddwyfol sancteiddrwydd
tywynned dy ŵyneb i lawr.

O cofia dy hen addewidion
sy’n ras a gwirionedd i gyd;
mae manna’r addewid yn ddigon
i dorri anghenion y byd.
I Seion rho newydd destunau
i ganu dy fawl yn gytûn,
a dychwel â’th hen drugareddau
er mwyn dy ogoniant dy hun.

DYFED, 1850-1923

(Caneuon Ffydd 202)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015