logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pa fodd y meiddiaf yn fy oes

Pa fodd y meiddiaf yn fy oes
Dristâu na grwgnach dan y groes,
A minnau’n gwybod am y fraint
Mai’r groes yw coron pawb o’r saint?

Mae dirmyg Crist yn well i mi
Na holl drysorau’r byd a’i fri;
Ei wawd fel sain berseiniol sydd,
A’i groes yn fywyd imi fydd.

Nid yw blinderau’r saint i gyd,
A’u croesau beunydd yn y byd,
Ond megis dim wrth gyfyng awr
A thost arteithiau’r Meichiau mawr.

O dan y groes ymlaen yr awn,
Dywedodd ef mai’r groes a gawn;
Ond dyma gysur, f’enaid gwan,
Try’r groes yn goron yn y man.

Robert ap Gwilym Ddu (1767 – 1850)
Atodiad (y M.C a Wesleaidd) : 794

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 14, 2015