logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pa fawredd yw’r gogoniant hwn

Pa fawredd yw’r gogoniant hwn
Ddewisodd ddod yn ddim?
Cyfnewid gwychder nef y nef
Am fyd mor dlawd a llwm.
Daeth Duw yn un ohonom ni
Tu hwnt i ddeall dyn;
Rhyfeddu mwy a wnaf bob tro
Y clywa’ i’r hanes hwn.

Beth wnaf ond plygu glin;
Addolaf ger dy fron
A dyfod fel yr wyf –
Offrwm fydd fy mywyd oll.

Yr Un amgylcha’r nefoedd wen
Sy’n gorwedd yn y crud;
Y llais a alwodd fyd i fod
Sy’n cysgu yno’n fud.
Yr Un fu’n taenu sêr y nen
A’u galw hwy â’i Air
Yw’r bychan diymadferth sy’n
Ddiniwed Faban Mair.

Pa gariad dyfnach allai fod
Na hyn at euog ddyn,
Ond balchder fyn droi cefn ar Grist,
Y gostyngedig Un;
Ond caiff y byd ei ganfod Ef
A’i gariad maith di-drai
Wrth weld ei waith, ei air, ei ras
Yng nghnawd ein bywyd brau.

Graham Kendrick: What kind of greatness can this be?, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M. Job.
© 1994 Make Way Music www.grahamkendrick.co.uk

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 12, 2015