logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pa bryd y cedwi’r bobol

Pa bryd y cedwi’r bobol,
drugarog Dduw, pa bryd?
Nid mawrion, heb y miloedd,
nid beilchion, ond y byd:
blodau dy galon yw’r rhai hyn;
gânt hwy ddiflannu megis chwyn
heb weled gwawr o obaith gwyn?
Duw gadwo’r bobol!

Gaiff trosedd fagu trosedd
a’r cryf gryfhau o hyd?
A fynni di i lafur
fyth gynnal gormes byd?
Na, medd dy fryniau, na, dy nef;
fe gwyd yr haul, a chydag ef
dynoliaeth gwyd â llawen lef:
Duw gadwo’r bobol!

Pa bryd y cedwi’r bobol,
drugarog Dduw, pa bryd?
Y bobol, Dad, y bobol,
nid beilchion, ond y byd:
Duw gadwo’r bobol, plant i ti
ŷnt hwy, fel dy angylaidd lu;
rhag llygredd, trais, anobaith du,
Duw gadwo’r bobol!

EBENEZER ELLIOTT, 1781-1849 (When wilt thou save the people) cyf. E. KERI EVANS, 1860-1941

(Caneuon Ffydd 860)

PowerPoint