logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Os Iesu Grist yn dlawd a ddaeth

Os Iesu Grist yn dlawd a ddaeth
heb le i roi’i ben i lawr,
ai gormod yw i’r fynwes hon
roi cartref iddo nawr?

Os gwawdiwyd enw Iesu gynt
gan ei elynion cas,
ai gormod i’w gyfeillion hoff
yw canmol gwaith ei ras?

Os dygodd Iesu addfwyn faich
euogrwydd mawr ein bai,
ai gormod yw i euog ddyn
gyd-ddwyn ei esmwyth iau?

Os plygodd Iesu da ei ben
i farw ar y groes,
ai gormod yw i ninnau mwy
fyw iddo drwy ein hoes?

DEWI MEDI, 1844-1917

(Caneuon Ffydd 678)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015