logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Os heddwch fel afon

Os heddwch fel afon sy’n canlyn fy nhroed,
Neu dristwch fel ymchwydd y lli –
Beth bynnag a ddaw, Ti a’m dysgaist i ddweud
“Diogel wyf, diogel wyf gyda Thi.”

Diogel wyf gyda Thi,
Diogel wyf, diogel wyf gyda Thi.

Mae Satan yn brwydro a rhwystrau yn dod,
Ond methant ddarostwng fy nghri
Fod Crist wedi’m cofio, er gwaeled fy ngwedd,
A thywalltodd ei waed trosof fi!

Fy mhechod – rwy’n llonni wrth feddwl am hyn –
Fe’i cym’rodd at fryn Calfari;
Fe’i hoeliodd i’w groes a rhyddhaodd fy maich:
Mola Dduw! Mola Dduw, f’enaid i!

Boed Crist i mi’n fywyd o hyn hyd fy medd,
Ac os daw’r Iorddonen fel lli
Nid ofnaf un niwed wrth groesi ei thon –
Diogel fyddaf mewn hedd gyda Thi.

Ond Arglwydd, disgwyliwn amdanat Ti dy Hun;
Y nef, nid y bedd fydd i ni;
Ar ganiad yr utgorn cawn weled ein Duw!
Hyfryd obaith a nod f’enaid i!

H G Spafford: When Peace like a river, cyfieithwyd: Dafydd M Job

PowerPoint