logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O’r nef y daeth, Fab di-nam

O’r nef y daeth, Fab di-nam,
i’r byd yn dlawd heb feddu dim,
i weini’n fwyn ar y gwan,
ei fywyd roes i ni gael byw.

Hwn yw ein Duw, y Brenin tlawd,
fe’n geilw oll i’w ddilyn ef,
i fyw bob dydd fel pe’n anrheg wiw o’i law:
fe roddwn fawl i’r Brenin tlawd.

Ei ddagrau’n lli yn yr ardd,
fy meichiau trwm gymerodd ef:
ei galon fawr oedd yn drist,
“D’ewyllys di fo’n ben,” medd ef.

Gwêl ddwylo briw, gwêl ei draed,
ei greithiau’n brawf o’i aberth drud;
y dyner law leddfai boen,
a rwygwyd gan yr hoelion llym.

Yn isel fryd gweini wnawn
a’i ddewis ef yn Arglwydd pawb:
wrth estyn llaw at fy mrawd
cydnabod wnawn ein Brenin tlawd.

GRAHAM KENDRICK From heaven you came (The Servant King) cyf. SIÔN ALED
Hawlfraint  1983 Kingsway’s Tbankyou Music, P.O. Box 75, Eastbourne BN23 6NW. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd 276, Grym Mawl 1: 37)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015