logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O’r fath geidwad rhyfeddol yw Iesu: Cân Hosanna

O’r fath geidwad rhyfeddol yw Iesu,
O’r fath geidwad rhyfeddol i ni;
Gan roi heibio ogoniant y nefoedd
Daeth ei hun i’w groes ar Galfari.

Cân Hosanna, cân Hosanna,
Cân Hosanna rown i frenin nef:
Cân Hosanna, Pêr Hosanna,
Cân Hosanna iddo Ef.

Atgyfoddodd o’r bedd, Haleliwia!
A bydd yntau am byth yn fyw;
Ar ddeheulaw y Tad heddiw’n eiriol,
Gwrando’n cri a wna er gwanned yw.

Ond mae’n dyfod ryw ddiwrnod i’n cymryd,
Cawn ein dwyn ato’n ddiogel i’r nef;
O’r llawenydd i ni fydd ei weled,
A rhoi clod am byth i’w gariad Ef.

ANAD. cyf. Alun Morgan © William Owen. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 398)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016