logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Oleuni’r byd

Oleuni’r byd,
Daethost lawr i’r tywyllwch –
Agor fy llygaid i weld
Harddwch dy wedd sy’n rhoi gwefr i’m henaid,
Ti yw fy mywyd a’m nerth.

A dyma fi’n d’addoli,
Dyma fi’n ymgrymu,
Dyma fi’n cyffesu, “Ti yw Nuw”;
Rwyt ti mor ddyrchafedig,
O! mor fendigedig,
Arglwydd, mor garedig – ‘rwyt mor driw.

Frenin brenhinoedd
A Chrëwr y bydoedd,
Harddwch y nefoedd a’i bri,
daethost i’n byd
Rhoist dy hun yn aberth,
Marw ar groes trosom ni.

A phwy byth all ddirnad maint dy loes
Yn dwyn fy mhechod ar y groes.
(Ailadrodd)

Here I Am To Worship: Tim Hughes, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Copyright © and in this translation 2000 Thankyou Music/Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK & Europe, adm. by Integritymusic.com, a division of David C Cook songs@integritymusic.com Used by permission

PowerPoint youtube
  • Gwenda Jenkins,
  • June 8, 2015