logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Ysbryd byw, dylifa drwom

O Ysbryd byw, dylifa drwom,
bywha dy waith â grym y groes.
O Ysbryd byw, tyrd, gweithia ynom,
cymhwysa ni i her ein hoes.

O ddwyfol wynt, tyrd, plyg a thrin ni
nes gweld ein hangen ger dy fron;
ac achub ni â’th hael dosturi,
bywha, cryfha; clyw’r weddi hon.

O gariad Crist, chwyth arnom eto,
rho galon ac ewyllys lân;
tyrd, gariad Crist, drachefn i’n huno,
glanha’r holl dŷ â’th sanctaidd dân.

Bywha ni, Grist: mae’n sêl ar ddarfod,
mor aeddfed wyn yw’r meysydd mawr
bywha ni, Grist, mae’r byd yn barod,
rho inni ras i daenu’r wawr.

O Breath of life, come sweeping through us: Elizabeth Porter Head, 1850-1936
cyfieithiad awdurdodedig: E. H. Griffiths © Olwen Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 597; Grym Mawl 1: 122)

PowerPoint