logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Waredwr mawr y ddaear

Emyn Adfent

O Waredwr mawr y ddaear
Ganwyd gynt ym Methlem dref;
Daw’r cenhedloedd oll i’th ganmol,
Mab i Dduw sy’n blentyn Nef.

Nid ewyllys dyn fu’th hanes
Ond yn rodd i ni drwy ras,
Cariad dwyfol yw dy anian
Sanctaidd yw dy nefol dras.

Dwyfol blentyn, tyrd i’n canol
Fel y gallom weled Duw
A chael profi gwyrth dy gwmni
A darganfod beth yw byw.

Wrth it wisgo cnawd y ddaear,
Megis dyn di-hawl, di-rym
Cymorth ni i werthfawrogi
I ti brofi’r hoelion llym.

Rhaid i ninnau heddiw ddeall
Rym y Pasg ar lwyfan byd,
A darganfod dolen Bethlem
Cysgod croes uwchlaw dy grud.

Denzil I. John (ysbrydolwyd ganCOME, THOU REDEEMER OF THE EARTH John M. Neale 1818-1866 o’r Lladin Veni, Redemptor gentium) Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint