O! Uchder heb ei faint,
O! Ddyfnder heb ddim rhi’,
O! led a hyd heb fath,
Yw’n hiachawdwriaeth ni:
Pwy ŵyr, pwy ddwed – seraffiaid, saint,
O’r ddaer i’r nef, beth yw fy mraint?
Mae’r ddaear a’i holl swyn
Oll yn diflannu’n awr;
A’i themtasiynau cry’
Sy’n cŵympo’n llu i’r llawr;
Holl flodau’r byd sydd heb eu lliw;
‘D oes dim yn hyfryd ond fy Nuw.
Mae haul a sêr y rhod
Yn darfod oll o’m blaen;
Mae t’wyllwch dudew’n dod
Ar bopeth hyfryd glân:
Fy Nuw ei Hun sy’n hardd, sy’n fawr,
Ac oll yn oll mewn nef a lawr.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 259)
PowerPoint