logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O tyred, raslon angel Duw

O tyred, raslon angel Duw,
cynhyrfa’r dyfroedd hyn
lle’r erys gwywedigion bro
amdanat wrth y llyn:
ni feddwn neb i’n bwrw i’r dŵr
i’n golchi a’n hiacháu;
tydi yn unig fedd y grym,
O tyred, mae’n hwyrhau.

Yn nhŷ trugaredd aros wnawn
a hiraeth dan bob bron
am nad oes cyffro yn y llyn
nac ymchwydd yn ei don:
pwy ŵyr nad heddiw deui di
drwy’r pyrth i lan y dŵr?
Tydi yn unig fedd y grym,
atgyfodedig Ŵr.

MAURICE LOADER, defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 210)

PowerPoint