logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O tyred i’n hiacháu

O tyred i’n hiacháu,
garedig Ysbryd;
tydi sy’n esmwytháu
blinderau bywyd:
er dyfned yw y loes,
er trymed yw y groes,
dwg ni bob dydd o’n hoes
yn nes i’r gwynfyd.

O tyred i fywhau
y rhai drylliedig,
tydi sy’n cadarnhau
y gorsen ysig;
pan fyddo’r storom gref
yn llanw’r byd a’r nef,
dy air a’th hyfryd lef
wna’r gwynt yn ddiddig.

O tyred i’n glanhau
o bob anwiredd
rhag cael y drws ynghau
pan ddelo’r diwedd;
gwasgara ofnau’r bedd,
a dwg ni ar dy wedd
i breswylfeydd dy hedd
uwchlaw pob llygredd.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 591)

PowerPoint