logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O tyred, Arglwydd mawr

O tyred, Arglwydd mawr,
dihidla o’r nef i lawr
gawodydd pur,
fel byddo’r egin grawn,
foreddydd a phrynhawn,
yn tarddu’n beraidd iawn
o’r anial dir.

Mae peraroglau gras
yn taenu o gylch i maes
awelon hedd;
estroniaid sydd yn dod
o’r pellter eitha’ ‘rioed,
i gwympo wrth dy droed
a gweld dy wedd.

Mae tegwch d’ŵyneb-pryd
yn maeddu oll i gyd
sy ar ddaear las;
mae pob rhyw nefol ddawn
oll yno’n gryno lawn,
yn tarddu’n hyfryd iawn
o’th glwyfau i maes.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 364; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 224)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015