logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Seren newydd, glaer

O Seren newydd, glaer,
Disgleiria uwch ein byd,
I arwain doethion dros y paith
At frenin yn ei grud.

O angel gwyn y nef,
Tyrd eto, saf gerllaw,
I ddweud am Iesu, baban Mair,
Yn ninas Dafydd draw.

O wylwyr pell y praidd,
Nesewch i Fethlem dref,
A phlygwch ger y preseb bach
Lle mae Tywysog nef.

O glychau’r newydd da,
Cydseiniwch dros y llawr,
Cyfeiliwch y dragwyddol gân
O fro’r goleuni mawr.

O Haleliwia lon,
Atseinia ar ein clyw:
“Tangnefedd mwyach i’r holl fyd,
Gogoniant fydd i Dduw.”

W. Rhys Nicholas © Richard E. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016