logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O roddwr bywyd, arwain ni

O roddwr bywyd, arwain ni
i’th foli a’th fawrhau,
ti sy’n bendithio teulu dyn
a pheri llawenhau.

I ofal ac amddifyn da
dy Eglwys yn y byd
cyflwyno wnawn yr ieuanc rai
a’n holl obeithion drud.

O arddel drwy dy ddwyfol nerth
y sanctaidd ordinhad
a selia mwy â’th gariad mawr
adduned mam a thad.

Ein plant a ddygwn ger dy fron
i’w rhoi i’r bedydd glân;
erfyniwn ninnau er eu mwyn
am rin y bedydd tân.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96  © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 636)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016