logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O rho dy fendith, nefol Dad

O rho dy fendith, nefol Dad,
ar holl genhedloedd byd,
i ddifa’r ofnau ymhob gwlad
sy’n tarfu hedd o hyd;
rhag dial gwyllt, rhag dyfais dyn,
mewn cariad cadw ni
a dyro inni’r ffydd a lŷn
wrth dy gyfiawnder di.

Rho i wirionedd heol glir
drwy ddryswch blin yr oes,
a chluded ffyrdd y môr a’r tir
ddatguddiad gwell o’r groes;
rhag troi y byd yn anial gwyw,
rhag llygru nwyd a greddf,
rho inni’r ddawn i fentro byw
a chariad inni’n ddeddf.

Rho inni fyd heb boen a phla,
heb ing ymrafael trist,
cynydded rhin ewyllys da
disgyblion Iesu Grist;
rhag gwasgar mwy dy deulu di
a chwalu’r byd â chas,
cysegra ein brawdgarwch ni
â holl ddoethineb gras.

E. LLWYD WILLIAMS, 1906-60

(Caneuon Ffydd 268)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015