logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O mor hyfryd yw’r enw hwn

mae’r cerddoriaeth gyfoes ar gael – dilynwch y ddolen youtube

Pennill 1
Ti oedd y Gair yn y dechreuad,
Un â Duw, yn Iôr sydd fry,
D’ogoniant cudd mewn creadigaeth,
Yn eglur nawr, i ni yng Nghrist.

Cytgan 1
O mor hyfryd yw’r enw hwn,
O Mor hyfryd yw’r enw hwn,
Enw Iesu Grist fy Iôr.

O mor hyfryd yw’r enw hwn,
Does dim o’i debyg Ef,
O mor hyfryd yw’r enw hwn,
Enw Iesu.

Pennill 2
Ti ddim am nefoedd heb ein cwmni,
A Iesu ddaeth i lawr â’r nef,
Fy mhechod cryf, dy gariad cryfach,
‘Sdim all ein gwahanu nawr.

Cytgan 2
O mor hyfryd yw’r enw hwn,
O Mor hyfryd yw’r enw hwn,
Enw Iesu Grist fy Iôr.

O mor hyfryd yw’r enw hwn,
Does dim o’i debyg Ef,
O mor hyfryd yw’r enw hwn,
Enw Iesu.
O mor hyfryd yw’r enw hwn,
Enw Iesu.

Pont
Fe drechaist angau, y llen g’add ei rwygo,
Mae pechod ac ymffrost bedd yn fud,
Mae’r nefoedd yn rhuo er clod i’th ogoniant
Codais’ di nôl o farw’n fyw.

Does neb sydd yn debyg, neb i’w gymharu
Nawr ac am byth, teyrnasu rwyt,
Ti biau’r Deyrnas, i Ti mae’r gogoniant,
Ti biau’r Enw uwch pob un.

Cytgan 3
O mor rymus yw’r enw hwn,
O mor rymus yw’r enw hwn,
Enw Iesu Grist, fy Iôr.

O mor rymus yw’r enw hwn,
Does dim a saif o’i flaen,
O mor rymus yw’r enw hwn,
Enw Iesu.

Ail hanner y bont
Does neb sydd yn debyg, neb i’w gymharu,
Nawr ac am byth, teyrnasu rwyt,
Ti biau’r Deyrnas, i Ti mae’r gogoniant
Ti biau’r Enw uwch pob un.

Cytgan
O mor rymus yw’r enw hwn,
O mor rymus yw’r enw hwn,
Enw Iesu Grist, fy Iôr.

O mor rymus yw’r enw hwn,
Does dim a saif o’i flaen,
O mor rymus yw’r enw hwn,
Enw Iesu.

O mor rymus yw’r enw hwn,
Enw Iesu,
O mor rymus yw’r enw hwn,
Enw Iesu.

Cyfieithiad awdurdodedig Cymraeg: What a beautiful name
Cerddoriaeth a geiriau: Ben Fielding, Brooke Ligertwood
Cyfieithiad Cymraeg: Arwel Jones

© Hillsong Music Publishing (APRA)
PO Box 1195 Castle Hill NSW 1765 Australia
PH +61 2 8853 5353 FAX +61 2 8846 4625
E-mail: publishing@hillsong.com

PowerPoint youtube
  • Gwenda Jenkins,
  • March 14, 2017