logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O maddau i ni, Dad pob llwyth

O maddau i ni, Dad pob llwyth,
am fod mor fyddar cyd
heb ddewis gwrando cwyn dy blant
o warth y trydydd byd.

At fyrddau ein neithiorau bras
daw llef eu cythlwng hwy;
meddala’n calon fel na wnawn
eu diystyru mwy.

Ni chawsant hwy na tho na thân
yn gysur rhag yr hin,
na chymorth un lliniarus law
yn ing eu poenau blin.

Rhag cyfarwyddo wrth eu gweld
bob hwyrnos, gwared ni;
pe cysgem ni heb gofio’r rhain
anghofiem Galfarî.

J. DENNIS JONES

(Caneuon Ffydd 808)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015