logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O llefara’ addfwyn Iesu

O! llefara’ addfwyn Iesu,
mae dy eiriau fel y gwin,
oll yn dwyn i mewn dangnefedd
ag sydd o anfeidrol rin;
mae holl leisiau’r greadigaeth,
holl ddeniadau cnawd a byd,
wrth dy lais hyfrytaf, tawel
yn distewi a mynd yn fud.

Ni all holl hyfrydwch natur,
a’i melystra penna’ i maes,
fyth gymharu â lleferydd
hyfryd, pur, maddeuol ras;
gad im glywed sŵn dy eiriau,
awdurdodol eiriau’r nef,
oddi mewn yn creu hyfrydwch
nad oes mo’i gyffelyb ef.

Dwed dy fod yn eiddo imi,
mewn llythrennau eglur, clir;
tor amheuaeth sych, digysur,
tywyll, dyrys, cyn bo hir;
‘rwy’n hiraethu am gael clywed
un o eiriau pur y ne’,
nes bod ofon du a thristwch
yn tragwyddol golli eu lle.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 340)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015