logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O! Iesu’r archoffeiriad mawr

O! Iesu’r archoffeiriad mawr,
Rhof f’enw ar dy fraich i lawr;
Rho eilwaith, mewn llythrennau clir,
Ef ar dy ddwyfron sanctaidd bur.
Fel pan ddêl arnaf bob rhyw dro,
Y byddwyf byth o fewn dy go’,
Na byddo arnaf unrhyw faich
Ond a fo’n pwyso ar dy fraich.

O! gwna fy nghariad innau’n rhydd
I redeg atat Ti bob dydd;
A gwisgo d’enw sanctaidd llon,
Fel seren ddisglair ar fy mron.
A dod fy nghalon wag yn llawn
O’th gariad peraidd, fore a nawn;
Câr dithau finnau yn ddi-drai,
A’r undeb hwn byth fo’n parhau.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 189)

PowerPoint