logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Iesu, mi addewais

O Iesu, mi addewais
dy ddilyn drwy fy oes;
bydd di yn fythol-agos,
Waredwr mawr y groes:
nid ofnaf sŵn y frwydyr
os byddi di gerllaw;
os byddi di’n arweinydd
ni chrwydraf yma a thraw.

Rho brofi dy gymdeithas;
mor agos ydyw’r byd
a’i demtasiynau cyfrwys
yn ceisio denu ‘mryd;
gelynion sydd yn agos
o’m cylch a than fy mron;
O Geidwad, paid â’m gadael
ym merw’r frwydyr hon.

Rho glywed sŵn dy eiriau,
acenion clir dy lais,
uwchlaw holl storm fy nwydau
a murmur hunan-gais;
llefara di i’m harwain,
O Geidwad f’enaid drud,
a gwna fi’n ufudd beunydd
i’r Un a’m carodd cyd.

J. E. BODE, 1816-74 efel. D. R. GRIFFITHS, 1915-90 © geiriau Cymraeg, Petra Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 719)

PowerPoint