logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Iesu mawr, rho d’anian bur

O Iesu mawr, rho d’anian bur
i eiddil gwan mewn anial dir,
i’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy
ar ddyrys daith i’r Ganaan fry.

Pob gras sydd yn yr Eglwys fawr,
fry yn y nef neu ar y llawr,
caf feddu’r oll, eu meddu’n un,
wrth feddu d’anian di dy hun.

Mi lyna’n dawel wrth dy draed,
mi ganaf am rinweddau’r gwaed,
mi garia’r groes mi nofia’r don,
ond cael dy anian dan mron.

DAVID CHARLES, 1762-1834

(Caneuon Ffydd 686)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015