logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Iesu mawr, pwy ond tydi

O Iesu mawr, pwy ond tydi
allasai farw drosom ni
a’n dwyn o warth i fythol fri?
Pwy all anghofio hyn?

Doed myrdd ar fyrdd o bob rhyw ddawn
i gydfawrhau d’anfeidrol Iawn,
y gwaith gyflawnaist un prynhawn
ar fythgofiadwy fryn.

Nid yw y greadigaeth faith
na’th holl arwyddion gwyrthiol chwaith
yn gytbwys â’th achubol waith
yn marw i ni gael byw.

Rhyfeddod heb heneiddio mwy
fydd hanes mawr dy farwol glwy’;
ni threiddia tragwyddoldeb drwy
ddyfnderoedd cariad Duw.

EMRYS, 1813-73

(Caneuon Ffydd 534)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015