logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Iesu, Haul Cyfiawnder glân,

O Iesu, Haul Cyfiawnder glân,
llanw mron â’th nefol dân;
disgleiria ar fy enaid gwan
nes dod o’r anial fyd i’r lan.

Enynna ‘nghalon, Iesu cu,
yn dân o gariad atat ti,
a gwna fi’n wresog yn dy waith
tra byddaf yma ar fy nhaith.

A gwna fy nghalon dywyll i
yn olau drwy d’oleuni di;
gwasgara’r holl gymylau i gyd
sy’n cuddio gwedd dy ŵyneb-pryd.

AZARIAH SHADRACH, 1774-1844

(Caneuon Ffydd 693)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015