logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O iachawdwriaeth gadarn

O iachawdwriaeth gadarn,
O iachawdwriaeth glir,
‘fu dyfais o’i chyffelyb
erioed ar fôr na thir;
mae yma ryw ddirgelion,
rhy ddyrys ŷnt i ddyn,
ac nid oes all eu datrys
ond Duwdod mawr ei hun.

‘Does unpeth ennyn gariad
yn fflam angerddol gref,
addewid neu orchymyn,
fel ei ddioddefaint ef;
pan roes ei fywyd drosom
beth all ef ballu mwy?
Mae myrdd o drugareddau
difesur yn ei glwy’.

O ras di-drai, diderfyn,
tragwyddol ei barhad;
yng nghlwyfau’r Oen fu farw
yn unig mae iachâd:
iachâd oddi wrth euogrwydd,
iachâd o ofnau’r bedd;
a chariad wedi ei wreiddio
ar sail tragwyddol hedd.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 509; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 283)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015