logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O gyfiawnder pur tragwyddol

O! Gyfiawnder pur tragwyddol,
O! Gyfiawnder maith di-drai –
Rhaid i’m henaid noeth newynllyd
Gael yn fuan dy fwynhau:
Rho dy wisg ddisgleirwen olau,
Cudd fy noethni hyd y llawr,
Fel nad ofnwyf mwy ymddangos
Fyth o flaen dy orsedd fawr.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 574)

PowerPoint