logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Grist, tydi yw’r ffordd at Dduw ein Tad

O Grist, tydi yw’r ffordd at Dduw ein Tad,
am dy ddatguddiad, diolchwn.
Haleliwia! Amen.

O Grist, y gwir am ystyr bod a byw,
i ti’r Unigryw, plygwn.
Haleliwia! Amen.

O Grist, y bywyd llawn i bawb a gred,
rho in ymddiried ynot.
Haleliwia! Amen.

O Grist, y drws i fyd dy hedd a’th ras,
deled dy deyrnas ynom.
Haleliwia! Amen.

TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 386)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016