logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Greawdwr y goludoedd

O Greawdwr y goludoedd
Maddau dlodi mawr ein byw,
Maddau’r chwarae â chysgodion
Yn lle d’arddel Di, ein Duw;
Tyn ni’n rhydd o afal greulon
Y sylweddau dibarhad,
Crea ynom hiraeth sanctaidd
Am drysorau’r nefol wlad.

O Arweinydd pererinion
Maddau in ein crwydro ffôl,
Deillion ydym yn yr anial
Wedi colli’r ffordd yn ôl;
O’n hanobaith deuwn atat,
Chwilia amdanom, O ein Duw,
Lladd ein hysfa ddigyfeiriad
Fel y gallom eto fyw.

O Ffynhonnell yr Ysbrydoedd,
Maddau lesgedd mawr ein ffydd,
Maddau brinder ein llawenydd
A’r dyheu sy’n lladd ein dydd;
O anadla arnom eto,
Gad in deimlo’r cryfder glân.
Fel bo’r fflam a roddaist ynom
Yn ail-ennyn sanctaidd dân.

O Gynhaliwr y Gwirionedd,
Maddau’n hanwireddau ni,
Maddau dwyll y rheswm dynol
A ddibrisiodd d’eiriau Di;
Achub ni o’n hangrhediniaeth,
Lladd ein rhyfyg a’n traha,
Fel y gallom orfoleddu
O dan wyrth y Newydd da.

W. Rhys Nicholas  © Richard E. Huws, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016