logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O godiad haul

O godiad haul
Hyd ei fachlyd bob hwyrddydd,
lesu ein Harglwydd
Fydd fawr drwy’r holl fyd;
Teyrnasoedd hollfyd
Fydd dan ei reolaeth
Trwy’r greadigaeth
Fe genir ei glod.

Boed i bob llais, a phob calon a thafod,
Ei foli yn awr.
‘N un yn ei gariad, amgylchwn y byd,
Dewch i ganu ei fawl.
O moled y bobloedd ynghyd,
A boed i’r holl fyd wrando ei lef.

“Ewch i’r holl fyd
I bregethu’r efengyl,
Gwnewch im ddisgyblion,
Bedyddiwch,” medd Ef.
Cans pob awdurdod
A roddwyd i’r lesu;
Ninnau yn dystion
Awn allan mewn ffydd.

Dewch i ymuno
Â’r eglwys drwy’r hollfyd,
Croeswn y ffiniau,
Agorwn bob drws.
Casglu’r cynhaeaf,
Cyd-weithio â’n Harglwydd,
Nes dwyn pob person
Drwy’r byd dan ei law.

Graham Kendrick: From the sun’s rising, cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun
Hawlfraint © 1988 Make Way Music. Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music. Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym mawl 1: 38)

PowerPoint