logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O gariad, O gariad anfeidrol ei faint

O gariad, O gariad anfeidrol ei faint,
fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint;
cael heddwch cydwybod, a’i chlirio drwy’r gwaed,
a chorff y farwolaeth, sef pechod, dan draed.

Ni allai’r holl foroedd byth olchi fy mriw,
na gwaed y creaduriaid er amled eu rhyw;
ond gwaed y Meseia a’i gwella’n ddi-boen:
rhyfeddol yw rhinwedd marwolaeth yr Oen.

Cydganed y ddaear a’r nefoedd ynghyd
ogoniant tragwyddol i Brynwr y byd;
molianned pob enaid fy Arglwydd ar gân
am achub anhydyn bentewyn o’r tân.

Mae’r Jiwbil dragwyddol yn awr wrth y drws,
fe gododd yr heulwen, ni gawsom y tlws;
daw gogledd a dwyrain, gorllewin a de,
yn lluoedd i foli Tywysog y ne’.

1 GRAWN-SYPPIAU CANAAN, 1795; 2, 3, 4 MORGAN RHYS, 1716-79

(Caneuon Ffydd 523)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015