logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O gad im ddweud mod i’n dy garu

O gad im ddweud mod i’n dy garu,
Diolch wnaf am fendithion mor ddrud;
O gad im fyw yng nghysgodfa dy drugaredd,
Gad im weld dy wyneb di.
Boed i’r ddaear oll weld gogoniant Duw,
Molwn ninnau yn unfryd ein cân.
O gad im ddweud mod i’n dy garu,
O fy Arglwydd, fy nghyfaill glân.

O sibrwd di fy enw’n dyner –
Harmonïau’r nefol gân;
A gad i’m weld dy allu a’th ogoniant –
Rho im nawdd dy Ysbryd Glân.
Rwyt ti’n angor yn y stormydd,
D’adain di yw’r cysgod gwir.
Yn ufudd rwyf am ddilyn y Ceidwad;
O Dduw, clodforaf di.

O gad im ddweud mod i’n dy garu –
Hiraethu ‘rwyf am Deyrnas Nef.
Diogel wyf yn sicrwydd dy wirionedd
A’r cariad pur sydd yn dy hedd.
O ddyfnderoedd gras,
o’r maddeuant sydd
O gael bod yn blentyn Duw.
Fe wna’i mi ddweud mod i’n dy garu
O fy Arglwydd, fy nghyfaill byw.

Just let me say, Geoff Bullock. Cyfieithiad awdurdodedig: Natalie Drury
Hawlfraint © 1993 Word Music. Gweinyddir gan CopyCare

(Grym Mawl 2: 81)

PowerPoint