logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O! foroedd o ddoethineb

O! foroedd o ddoethineb
Oedd yn y Duwdod mawr,
Pan fu’n cyfrannu ei gariad
I dlodion gwael y llawr;
A gwneuthur ei drugaredd,
A’i faith dosturi ‘nghyd
I redeg megis afon
Lifeiriol dros y byd.

Rhyw ddyfnder maith o gariad,
Lled, annherfynol hyd,
A redodd megis dilyw
Diddiwedd dros y byd;
Yn ateb dyfnder eithaf
Trueni dynol-ryw;
Can’s dyfnder eilw ar ddyfnder
Yn arfaeth hen fy Nuw.

O! gariad heb ei gymar!
A dyna’r testyn sy
Yn llanw holl ganiadau
Angylaidd sanctaidd lu;
Anfeidrol ras! amdano
Pe na foliannai ddyn,
Clodforai’r bydoedd mudion
Yn ddiau bob yr un.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 314)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015