logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O fendigaid Geidwad

O fendigaid Geidwad,
clyw fy egwan gri,
crea ddelw’r cariad
yn fy enaid i;
carwn dy gymundeb
nefol, heb wahân,
gwelwn wedd dy wyneb
ond cael calon lân.

Plygaf i’th ewyllys,
tawaf dan bob loes,
try pob Mara’n felys,
braint fydd dwyn y groes;
molaf dy drugaredd
yn y peiriau tân;
digon yn y diwedd
fydd cael calon lân.

O fendigaid Arglwydd,
ar fy nhaith drwy’r byd
gwynned dy sancteiddrwydd
ddyddiau f’oes i gyd;
angau dry’n dangnefedd,
try y Farn yn gân;
nefoedd wen, ddiddiwedd
fydd i’r galon lân.

PEDROG, 1853-1932

(Caneuon Ffydd 779)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015