logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O enw ardderchocaf

O enw ardderchocaf
yw enw marwol glwy’,
caniadau archangylion
fydd y fath enw mwy;
bydd yr anfeidrol ddyfais
o brynedigaeth dyn
gan raddau filoedd yno
yn cael ei chanu’n un.

Fe ddaeth i wella’r archoll
drwy gymryd clwyf ei hun,
etifedd nef yn marw
i wella marwol ddyn;
yn sugno i maes y gwenwyn
a roes y sarff i ni,
ac wrth y gwenwyn hwnnw
yn marw ar Galfarî.

Bechadur, gwêl e’n sefyll
yn llonydd ar y groes,
clyw’r griddfan sy’n ei enaid
dan ddyfnder angau loes:
O gwrando ar ei riddfan:
mae pob ochenaid ddrud
yn ddigon mawr o haeddiant
ei hun i brynu byd.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 501)

PowerPoint

 

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015