logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O disgynned yma nawr

O disgynned yma nawr
Ysbryd Crist o’r nef i lawr;
boed ei ddylanwadau ef
yn ein plith fel awel gref
a gorffwysed ef a’i ddawn
ar eneidiau lawer iawn.

I ddarostwng drwy ei ras
ynom bob anwiredd cas,
a’n prydferthu tra bôm byw
ar sancteiddiol ddelw Duw,
rhodded inni’n helaeth iawn
o’i rasusol, ddwyfol ddawn.

Yn ei law y dygir llu
at yr Iesu’r Ceidwad cu,
am faddeuant a rhyddhad
yn ei glwyfau ef yn rhad:
gwerth y gwaed a’r aberth mawr,
O datguddied ef yn awr.

MINIMUS, 1808-80

(Caneuon Ffydd 588; Atodiad 812)

PowerPoint