logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O dewch i’r dyfroedd, dyma’r dydd

O dewch i’r dyfroedd, dyma’r dydd,
yr Arglwydd sydd yn galw;
tragwyddol ras yr Arglwydd Iôr
sydd fel y môr yn llanw.

Heb werth nac arian, dewch yn awr,
mae golud mawr trugaredd
â’i ŵyneb ar yr euog rai –
maddeuant a’i ymgeledd.

O dewch a phrynwch win a llaeth,
wel dyma luniaeth nefol;
prynwch heb arian a heb werth,
mae ynddynt nerth tragwyddol.

Mae’r wledd yn barod, O bwytewch
a llawenhewch yn Seion;
tragwyddol hedd i blant y llwch,
O profwch ei bendithion.

RICHARD JONES, 1772-1833

PowerPoint

(Caneuon Ffydd 237)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015