logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Dduw, mae du gymylau barn

O Dduw, mae du gymylau barn
Yn bygwth uwch ein byd,
A ninnau’n euog.
O Dduw, fe dorrwyd deddfau clir
Dy gariad – gwêl ein gwae,
Bywydau’n deilchion.

O trugarha, (dynion)
O trugarha, (merched)
O maddau’n bai, (dynion)
O maddau’n bai, (merched)
O adfer ni – bywha dy eglwys Iôr. (pawb)
A llifed barn (dynion)
A llifed barn (merched)
Fel dyfroedd, (dynion)
Fel dyfroedd, (merched)
Cyfiawnder pur fel afon gref i’r môr. (pawb)

O Dduw, ni ddaw colomen hedd
A’i bendith dros ein byd
Ei hadain dorrwyd.
O Dduw, yn lle rhoi bwyd i’r plant
Sy’n marw ar y stryd,
Grymoedd arfogwyd.

O Dduw, mae holl bwerau’r fall
Yn bygwth boddi’r byd,
Â’u llid a’u dychryn.
Rhag y llif doed cariad cryf i
Ail-feddiannu’r bywyd coll –
Deled dy Deyrnas di.

Ond, o Dduw, fe saif y groes mor gryf
Gan herio’r drwg, â’i grym
Caed buddugoliaeth.
Drwy y tân, fe ddengys d’eglwys
Glwyfus ogoniannau’i Christ –
Seinia ei glodydd!

Graham Kendrick: O Lord, the clouds are gathering. cyfieithiad awdurdodedig: Casi Tomos
Hawlfraint © 1987 Make Way Music, Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music. Defnyddir trwy ganiatâd.

(Grym Mawl 1: 128)

PowerPoint
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970