logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt

O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt,
ein gobaith am a ddaw,
ein lloches rhag ystormus wynt
a’n bythol gartref draw.

Cyn llunio’r bryniau o un rhyw,
cyn gosod seiliau’r byd,
o dragwyddoldeb ti wyt Dduw,
parhei yr un o hyd.

Mil o flynyddoedd iti sydd
fel doe pan ddêl i ben
neu wyliadwriaeth cyn y dydd
a chodi haul y nen.

Llifeiriant amser ddwg yn glau
o’i flaen holl oesoedd llawr;
yn angof ânt fel breuddwyd brau
a gilia gyda’r wawr.

O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt,
ein gobaith am a ddaw,
bydd inni’n nawdd tra pery’n hynt
a’n bythol gartref draw.

ISAAC WATTS, 1674-1748 cyf. J. C. DAVIES

(Caneuon Ffydd 61)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan