logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O ddirgelwch mawr duwioldeb

O ddirgelwch mawr duwioldeb,
Duw’n natur dyn;
Tad a Brenin tragwyddoldeb
yn natur dyn;
o holl ryfeddodau’r nefoedd
dyma’r mwyaf ei ddyfnderoedd,
testun mawl diderfyn oesoedd,
Duw’n natur dyn!

Ar y ddaear bu’n ymdeithio
ar agwedd gwas,
heb un lle i orffwys ganddo,
ar agwedd gwas:
daeth, er mwyn ein cyfoethogi,
o uchelder gwlad goleuni
yma i ddyfnder gwarth a thlodi,
O ryfedd ras!

GWILYM HIRAETHOG, 1802-83

(Caneuon Ffydd 453)

PowerPoint