logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O ddedwydd awr tragwyddol orffwys

O ddedwydd awr tragwyddol orffwys
oddi wrth fy llafur yn fy rhan
yng nghanol môr o ryfeddodau
heb weld terfyn byth na glan;
mynediad helaeth byth i bara
o fewn trigfannau Tri yn Un,
dŵr i’w nofio heb fynd drwyddo,
dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

Melys gofio y cyfamod
draw a wnaed gan Dri yn Un,
tragwyddol syllu ar y Person
a gymerodd natur dyn;
wrth gyflawni yr amodau,
trist hyd angau’i enaid oedd;
dyma gân y saith ugeinmil
tu draw i’r llen â llawen floedd.

Byw heb wres na haul yn taro,
byw heb allu marw mwy,
pob rhyw alar wedi darfod,
dim ond canu am farwol glwy’;
nofio’n afon bur y bywyd,
diderfyn heddwch sanctaidd Dri,
dan dywyniadau digymylau
gwerthfawr angau Calfarî.

ANN Griffiths, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 725)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015