logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O dawel ddinas Bethlehem

O dawel ddinas Bethlehem,
o dan dy sêr di-ri’,
ac awel fwyn Jwdea’n dwyn
ei miwsig atat ti:
daw heno seren newydd, dlos
i wenu uwch dy ben,
a chlywir cân angylion glân
yn llifo drwy y nen.

O dawel ddinas Bethlehem,
bugeiliaid heno ddaw
dros bant a bryn at breseb syn
oddi ar y meysydd draw;
a chwilio wnânt am faban bach
sy’n dod yn Geidwad dyn,
yn obaith byw i ddynol-ryw,
y Bugail da ei hun.

O dawel ddinas Bethlehem,
pwy heno ynot sydd?
Pa ddieithr wawr sy’n dod i lawr,
pa ryw dragwyddol ddydd?
Os cysgu’n dawel heno ‘rwyt
daw golau penna’r nef
i’r ogof laith i ddechrau’r daith:
gogoniant iddo ef!

BEN DAVIES, 1864-1937

(Caneuon Ffydd 451)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 20, 2015