logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O caned pawb o bedwar ban y byd

O caned pawb o bedwar ban y byd,
“Fy Nuw a’m Rhi!”
Rhy uchel nid yw’r nef
i eilio’i foliant ef:
rhy isel nid yw’r llawr
i chwyddo’r moliant mawr;
O caned pawb o bedwar ban y byd,
“Fy Nuw a’m Rhi!”

O caned pawb o bedwar ban y byd,
“Fy Nuw a’m Rhi!”
Yr Eglwys, caned hon
ei salm drwy’r ddaear gron;
ond uwch na phob rhyw gân
fo mawl y galon lân;
O caned pawb o bedwar ban y byd,
“Fy Nuw a’m Rhi!”

GEORGE HERBERT, 1593-1633 cyf. W D. WILLIAMS, 1900-85 © Iolo Wyn Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 39)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016