logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O cadw ni, ein Duw

O cadw ni, ein Duw,
mewn dyddiau du,
rhag colli rhamant byw
dan ofnau lu.

Yn nydd y crwydro mawr
ar lwybrau’r ffydd,
O clyw ein gweddi nawr
am newydd ddydd.

Rho inni weld y groes
a phridwerth Crist
yn drech nag anllad oes
a’i gwacter trist.

Wrth gofio’i goncwest ef
y trydydd dydd,
tydi, O Frenin nef,
cryfha ein ffydd.

Rhyddha’n tafodau mud
â’r Ysbryd Glân
nes boddi cellwair byd
mewn môr o gân.

Rho hyder yn y gwir
i deulu’r ffydd
a gweledigaeth glir
o’r nefol ddydd.

IEUAN S. JONES  © Mrs Glenda Mair Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 606)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 25, 2016