logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O arwain fy enaid i’r dyfroedd

O arwain fy enaid i’r dyfroedd,
y dyfroedd sy’n afon mor bur,
dyfroedd sy’n torri fy syched
er trymed fy nolur a’m cur;
dyfroedd tragwyddol eu tarddiad,
y dyfroedd heb waelod na thrai,
dyfroedd sy’n golchi fy enaid
er dued, er amled fy mai.

Da iawn i bechadur fod afon
a ylch yr aflanaf yn wyn;
hi darddodd o’r nefoedd yn gyson,
hi ffrydiodd ar Galfari fryn,
hi lifodd i’r anial cenhedlig,
hi olchodd fil miloedd yn lân;
hi ylch ei miliynau’n llwyr gannaid
cyn rhoddi llawr daear ar dân.

THOMAS JONES, 1756-1822

(Caneuon Ffydd 520)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015