logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O aros gyda mi, y mae’n hwyrhau

O aros gyda mi, y mae’n hwyrhau;
tywyllwch, Arglwydd, sydd o’m deutu’n cau:
pan gilia pob cynhorthwy O bydd di,
cynhorthwy pawb, yn aros gyda mi.

Cyflym ymgilia dydd ein bywyd brau,
llawenydd, mawredd daear sy’n pellhau;
newid a darfod y mae’r byd a’i fri:
O’r Digyfnewid, aros gyda mi.

Nid fel ymdeithydd, Arglwydd, ar ei daith,
ond aros gyda mi dros amser maith;
fel dy ddisgyblion gynt, moes weld dy wedd
yn llawn tiriondeb pur a dwyfol hedd.

Mae arnaf eisiau d’ŵyneb ar bob awr,
‘does ond dy ras a ddrysa’r temtiwr mawr:
pwy all fy arwain, Arglwydd, fel tydi?
Bob dydd a nos, O aros gyda mi.

Nid ofnaf neb pan fyddi di gerllaw;
ni theimlaf ddim o ingoedd poen a braw:
pa le mae colyn angau? Ble mae’r bedd?
Gorchfygaf hwynt ond im gael gweld dy wedd.

O dal dy groes o flaen fy llygaid llaith;
rho’r llewyrch nefol imi ar fy nhaith:
mae’r wawr yn torri: cyll y byd ei fri;
wrth fyw, wrth farw, O bydd gyda mi.

H. F. LYTE, 1793- 1847 (Abide with me) cyf LEWIS EDWARDS, 1809-87

(Caneuon Ffydd 759)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015