logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd, teilwng ydwyt

O Arglwydd, teilwng ydwyt
O’r moliant nos a dydd,
Ti yw brenin y Gogoniant,
A Chreawdwr popeth sydd.

Fe’th addolaf di, fy mywyd rof i ti,
Ymgrymaf ger dy fron.
Ie, addolaf di, fy mywyd rof i ti,
Ymgrymaf ger dy fron.

Wrth i’th Ysbryd symud arnaf
Mae’n gwella pob un briw,
A dyrchafaf ddwylo’i dderbyn
Dy drugaredd di fy Nuw.

Do, fe ddrylliaist fy nghadwyni,
Fe’m gollyngaist i yn rhydd;
Gwn fy mod yn ddiogel mwyach,
Ac fe’th welaf di ryw ddydd.

(I give you all the honour)  Carl Tuttle, Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1982 Shadow Spring Music. Gweinyddir gan CopyCare

(Grym Mawl 2: 57)

PowerPoint