logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd nef a daear

O Arglwydd nef a daear,
ymgeledd teulu’r llawr,
tywynned haul dy fendith
i’th blant sydd yma nawr;
dy sêl rho i’w haddewid
a’u haddunedau gwir
a gwna holl daith eu bywyd
yn ffordd i’r nefol dir.

Dan wenau dy ragluniaeth
gad iddynt fyw’n gytûn
a chaffael diogelwch
yn d’ymyl di dy hun;
amddiffyn hwy a’u cartref,
boed Iesu yn y lle;
pan ballo gorau’r ddaear
na pheidied gorau’r ne’.

Ti roddwr trugareddau,
O gwrando arnom ni,
boed serch y ddau a unir
yn demel bur i ti;
bydd yn gydymaith iddynt
a’th Ysbryd yn fwynhad
nes troi gobeithion amser
yn gân yn nhŷ ein Tad.

J. LLOYD WILLIAMS, 1855-1928

(Caneuon Ffydd 652)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015